Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (38) |
Datganiad gan y Llywydd
Croesawodd y Llywydd Samantha Hailes o Gaerdydd, y miliynfed ymwelydd â’r Senedd.
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 15 cwestiwn.
Cwestiwn Brys
Dechreuodd y Cwestiwn Brys am 14.31
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am unrhyw drafodaethau neu gysylltiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cael gyda Peacocks yn sgîl datblygiadau diweddar. EAQ(4)0088(BET)
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.40
3. Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Ysgolion ar gyfer yr 21ain ganrif
Dechreuodd yr eitem am 14.47
4. Datganiad gan y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth: Cwrdd â’r Her Tai: Creu consensws ar gyfer gweithredu
Dechreuodd yr eitem am 15.18
5. Dadl ar Greu Cymunedau Mwy Diogel i bawb – Gwella ansawdd bywyd i bobl Cymru
Dechreuodd yr eitem am 15.58
NDM4889 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi’r gwaith sydd wedi’i gyflawni gan Lywodraeth Cymru a’r asiantaethau sy’n bartner iddi i hybu’r agenda Diogelwch Cymunedol ac i greu Cymru ddiogelach i bawb.
Gohiriwyd y bleidlais ar y
cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu popeth ar ôl “iddi” a rhoi yn ei le:
ar yr agenda Diogelwch Cymunedol ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i wella diogelwch cymunedol yng Nghymru, gan ymgysylltu’n llawn â phartneriaid i hybu agenda gynhwysol a chreu Cymru ddiogelach i bawb.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
29 |
55 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi’n benodol gyfraniad cadarnhaol cynghorau lleol i wella diogelwch cymunedol, er enghraifft drwy gyllido Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu a chyflwyno cynlluniau gosod gatiau.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
54 |
1 |
0 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys ar ddiwedd y cynnig:
ond yn credu y byddai hyn yn gwella eto fyth petai plismona’n cael ei ddatganoli i Gymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
14 |
0 |
41 |
55 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
NDM4889 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi’r gwaith sydd wedi’i gyflawni gan Lywodraeth Cymru a’r asiantaethau sy’n bartner iddi i hybu’r agenda Diogelwch Cymunedol ac i greu Cymru ddiogelach i bawb.
Yn nodi’n benodol gyfraniad cadarnhaol cynghorau lleol i wella diogelwch cymunedol, er enghraifft drwy gyllido Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu a chyflwyno cynlluniau gosod gatiau.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
55 |
0 |
0 |
55 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
6. Dadl ar Bolisi Cynllunio ar gyfer Datblygu Economaidd
Dechreuodd yr eitem am 16.54
NDM4890 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud wrth ddiweddaru polisi cynllunio ar gyfer datblygu economaidd.
Gohiriwyd y bleidlais ar y
cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod bod y system gynllunio’n hanfodol ar gyfer economi gref ac felly’n gresynu wrth yr oedi ar ran Llywodraeth Cymru wrth gyflwyno newidiadau i Bolisi Cynllunio Cymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
Gyflwyno Bil Cynllunio Cymru yn gynharach na’r hyn a nodwyd yn y Datganiad Deddfwriaethol, fel y gellir rhoi agwedd strategol ond syml ar waith mewn canllawiau ar draws yr holl sectorau polisi er mwyn gwella'r economi a lles pobl Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
19 |
0 |
36 |
55 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi ei Bil Cynllunio’n gynharach nag a nodwyd yn ei datganiad deddfwriaethol, ac i ymgynghori’n eang arno, er mwyn helpu i ddiwallu anghenion datblygu economaidd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
29 |
55 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
NDM4890 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud wrth ddiweddaru polisi cynllunio ar gyfer datblygu economaidd.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
43 |
0 |
12 |
55 |
Derbyniwyd y cynnig.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd y Cyfnod Pleidleisio am 17.50
Daeth y cyfarfod i ben am 17.53
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30 Dydd Mercher, 18 Ionawr 2012